Adeiladau a Chyfleusterau
Mae Technium Technolegau Cynaliadwy wedi’i lleoli ym Mharc Ynni Baglan yn y De-orllewin. Mae’r cyfleuster wedi’i rannu dros bedwar llawr ac mae’n cynnwys 32 uned swyddfa broffesiynol. Mae’r rhain yn amrywio o ran maint o 313 i 3,400 troedfedd sgwâr, ar gyfer cwmnïau sy’n cynnwys 2 neu fwy o bobl. Mae gweddill y safle wedi’i neilltuo ar gyfer ystafelloedd cyfarfod a mannau cyffredin i annog cwmnïau i ryngweithio a rhwydweithio’n rheolaidd.
Mae’r gwasanaethau canlynol yn cael eu rheoli’n ganolog:
- Gwasanaeth glanhau y tu allan i adeiladau
- Gwasanaethau porthorol
- Rheolwr cyfleusterau ar-safle
- Gwres drwy’r holl ardaloedd mewnol
- System diogelwch/larwm 24 awr
- Desg gymorth 24 awr
- Addurn a chyflwyniad mewnol yr adeilad
- Cynnal a chadw’r lifft
- Gwasanaeth atal tân
- Rheoli plâu
- Cynnal a chadw’r tir a phlanhigion mewnol
- Gwasanaeth mesuryddion cyfleustodau
Dewisiadau gwasanaeth hyblyg
Mae dau brif lwybr ar gael i gwmnïau sydd â diddordeb yn Technium Technolegau Cynaliadwy, gan gynnwys:-