Am Technium Sustainable Technologies

About Technium ST pageCanolfan arloesedd yw Technium Technolegau Cynaliadwy sydd wedi’i lleoli ym Mharc Ynni Baglan gyda mynediad hawdd i draffordd yr M4.

Rydym yn darparu lle swyddfa hyblyg a modern a chyfle i fanteisio ar wasanaethau cymorth busnes.  Hefyd, gall busnesau sydd wedi’u lleoli yma rwydweithio â chwmnïau ac academyddion cenedlaethol a rhyngwladol blaenllaw.

Rydym yn cynorthwyo busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg ifanc i fanteisio ar dechnolegau a phrosesau sy’n cyfrannu at ddyfodol carbon isel.  Mae’r rhain yn cynnwys technolegau a phrosesau:

Bio-adnewyddadwy

  • bio-fferyllol
  • biodanwyddau fel bio-màs, bio-ethanol a bio-diesel
  • cynhyrchion sy’n defnyddio prosesau bio-buro

Rheoli gwastraff

  • ailddefnyddio hen ddeunyddiau gwastraff
  • ailgylchu
  • trin gwastraff

Cynhyrchion cynaliadwy

  • electroneg pŵer
  • adeiladu
  • deunyddiau amgen
  • gweithgynhyrchu darbodus
  • eco-gynllunio

Microgynhyrchu

  • technolegau solar goddefol ac actif
  • pympiau gwres ffynhonnell aer
  • hydro-pŵer
  • cyfuno gwres a phŵer
  • pŵer gwynt

Macro-adnewyddadwy

  • llanw,
  • gwynt,
  • tonnau,
  • hydrogen, a
  • bio-màs

Technolegau sefydledig

  • cynhyrchu a rheoli ynni
  • adeiladu
  • gwyddorau bywyd
  • modurol
  • trin a chynhyrchu cemegol a dŵr