Am Technium Digital
Canolfan arloesedd yw Technium Digidol sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe gyda mynediad hawdd i draffordd yr M4.
Rydym yn cynorthwyo busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg ifanc i fanteisio ar dechnolegau meddalwedd a digidol. Rydym yn cynnig swyddfeydd hyblyg a modern i gwmnïau ynghyd â gwasanaethau cymorth arbenigol. Hefyd, gall busnesau sydd wedi’u lleoli yma rwydweithio â chwmnïau ac academyddion cenedlaethol a rhyngwladol blaenllaw.
Rydym yn cydweithio â Technium Digidol@Sony, sydd wedi’i lleoli yng nghanolfan dechnoleg SONY yn y DU ym Mhencoed, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae yno naw uned lle gall cwmnïau ddefnyddio cyfarpar cynhyrchu a phrofi arbenigol, a derbyn cymorth gan staff peirianneg profiadol iawn.
