Nawdd

Mae’r pecynnau canlynol ar gael i unrhyw ddarpar noddwyr posibl ar gyfer cystadleuaeth 2008/09:-

Prif Noddwyr: Cyfraniad Ariannol o £5,000

  • Logo ar holl ddeunyddiau hyrwyddo’r gystadleuaeth.
  • Proffil ar wefan Cystadleuaeth Technium.
  • Cyfle i roi cyflwyniad 5 munud yn ystod y digwyddiad gwibrwydweithio y bydd pob ymgeisydd a noddwr yn cael gwahoddiad iddo. 
  • Cyfle i gyfarfod ymgeiswyr Cystadleuaeth Technium Rhyngwladol.
  • Bod yn aelod o’r panel beirniadu terfynol.
  • Cyfle i gyflwyno gwobr yn y seremoni wobrwyo.
  • Bwrdd am ddim yn y seremoni wobrwyo a gwahodd hyd at 6 o westeion.

Noddwyr Gwasanaethau Proffesiynol: Gwerth £5,000* o Gymorth o fath nad yw’n ariannol

  • Cyfle i gyfarfod ymgeiswyr Cystadleuaeth Technium Cymru/Y DU a Chystadleuaeth Technium Rhyngwladol.
  • Gwahoddiad i ddigwyddiad gwibrwydweithio i gyfarfod ag ymgeiswyr wyneb yn wyneb a chyfnewid gwybodaeth a manylion cyswllt.
  • Cyfle i gyflwyno crynodeb o’ch cynnyrch a’ch gwasanaethau i’w gynnwys ym mhecyn gwybodaeth y gystadleuaeth. 
  • Aelod o banel beirniadu’r rownd gyntaf.
  • Dau le am ddim yn y seremoni wobrwyo.

* Dylai hyn gynnwys amser proffesiynol yn gweithio ar sail un-i-un gydag ymgeiswyr ac nid yw’n cynnwys unrhyw amser a dreulir yn beirniadu’r ceisiadau. Penderfynir ar gynigion i roi nwyddau yn hytrach na gwasanaethau ar sail achosion unigol yn dibynnu ar ba mor addas yw’r gwobrau arfaethedig.