Telerau ac Amodau

Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i Gystadleuaeth Technium. Drwy gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Technium, mae ymgeiswyr yn cytuno i gael eu rhwymo gan y telerau ac amodau hyn ac yn gwarantu fod ganddynt y cymhwyster cyfreithiol i gael eu rhwymo ganddynt.

1. Trefnir Cystadleuaeth Technium gan Technium, rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, Y Deyrnas Unedig.

2. Dim ond cwmnïau sydd wedi’u cymhwyso gan Technium fydd yn gymwys i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Technium.

3. Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno Crynodeb Gweithredol a Chynllun Busnes (fel y disgrifiwyd yn adran Rhaglen y Gystadleuaeth ar wefan Technium, www.technium.co.uk/challengeuk erbyn y dyddiad cau a bennwyd gan Gystadleuaeth Technium.

4. Mae penderfyniadau’r panel beirniadu’n derfynol ac ni ellir cynnal unrhyw ohebiaeth yn ymwneud â beirniadu ceisiadau neu unrhyw faterion eraill yn ymwneud â’r telerau ac amodau hyn.

5.  Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr un ai (i) wedi sefydlu ac wedi bod yn masnachu ers llai na 24 mis, neu (ii) yn bwriadu dechrau masnachu o fewn y 12 mis nesaf.

6. Mae’r ymgeisydd/ymgeiswyr yn rhagweld y byddant yn sicrhau trosiant o fwy na £1 miliwn o fewn y pum mlynedd gyntaf.

7. Rhaid i gynnyrch/gwasanaeth ymgeiswyr fod ag agwedd neu gymhwysiad technolegol o ryw fath.

8. Mae Cystadleuaeth Technium yn cadw’r hawl i ddefnyddio enwau a ffotograffau’r ymgeiswyr buddugol at ddibenion cyhoeddusrwydd o fewn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

9. Bydd Technium yn defnyddio gwybodaeth bersonol ymgeisydd at ddibenion Cystadleuaeth Technium (gan gynnwys, heb gyfyngiad, y dibenion a nodir ym mharagraff 8 uchod) ac at ddibenion monitro ac ystadegol. Gall Technium ddatgelu gwybodaeth bersonol o’r fath i’w ddarparwyr gwasanaethau ac asiantau at y dibenion hyn. Ac eithrio lle mae’n ofynnol i Technium yn ôl y gyfraith (yn cynnwys cyfraith yr Undeb Ewropeaidd) ddatgelu gwybodaeth bersonol am ymgeisydd, dim ond gyda chaniatâd yr ymgeisydd perthnasol y bydd Technium yn trosglwyddo gwybodaeth o’r fath i drydydd partïon (nad ydynt yn ddarparwyr gwasanaethau nac asiantau). Mae gan ymgeiswyr hawl i weld y wybodaeth y mae Technium yn ei chadw amdanynt a gall Technium godi tâl bychan arnynt am hynny. Mae gan ymgeiswyr hefyd hawl i gywiro unrhyw gamgymeriad yn eu gwybodaeth bersonol. Drwy gyflwyno cais, mae ymgeiswyr yn caniatáu i Technium gadw a defnyddio eu gwybodaeth bersonol yn unol â’r telerau ac amodau hyn. Mae Technium yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cofrestru gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth dan rif Z7107446.

10. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yn unig yw dewis y wybodaeth sydd i gael ei datgelu fel rhan o’u cais ar gyfer Cystadleuaeth Technium (gan gynnwys, ond heb ei chyfyngu i unrhyw hawliau mewn perthynas ag eiddo deallusol neu wybodaeth gyfrinachol). Mae ymgeiswyr yn gwarantu fod ganddynt awdurdod i ddefnyddio unrhyw eiddo deallusol sy’n rhan o’u cais i Gystadleuaeth Technium ac na fydd unrhyw hawl eiddo deallusol neu unrhyw hawliau eraill sy’n perthyn i unrhyw drydydd parti yn cael eu torri drwy gyflwyno cais i Gystadleuaeth Technium. Bydd ymgeiswyr yn gwbl gyfrifol am ddiogelu eu hawliau mewn perthynas ag unrhyw eiddo deallusol sy’n cael ei ddatgelu fel rhan o’u cais i Gystadleuaeth Technium. Dylai ymgeiswyr gofio y gall datgelu unrhyw eiddo deallusol mewn cais heb ei ddiogelu beryglu neu annilysu’r hawliau hynny. I gael cyngor manwl, dylai ymgeiswyr ymgynghori â chyfreithiwr arbenigol (neu weithiwr proffesiynol priodol arall). Dylai ymgeiswyr ddatgelu cyn lleied o wybodaeth gyfrinachol â phosibl fel rhan o’u cais i Gystadleuaeth Technium. Rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru a Technium ufuddhau i rai rhwymedigaethau penodol yn ymwneud â datgelu gwybodaeth yn ôl y gyfraith gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a thrwy hynny, ni all Llywodraeth Cynulliad Cymru a Technium dderbyn unrhyw rwymedigaethau cyfrinachedd mewn perthynas ag unrhyw gais i Gystadleuaeth Technium.   

11. Oni nodir yn wahanol, nid yw Technium yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddychwelyd unrhyw geisiadau i Gystadleuaeth Technium. Nid yw Technium yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddatgelu unrhyw gais i Gystadleuaeth Technium heb awdurdod a thrwy hyn yn eithrio unrhyw a phob atebolrwydd am ddatgelu gwybodaeth heb awdurdod i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith.

12. Mae unrhyw arian a/neu wasanaethau a roddir fel gwobrau yn anhrosglwyddadwy a rhaid eu defnyddio at ddiben cychwyn a/neu ddatblygu’r busnes a ddisgrifiwyd yn y Crynodeb Gweithredol a’r Cynllun Busnes a gyflwynwyd gan yr ymgeiswyr a dim ond ar gyfer hynny y cânt eu talu neu eu darparu.

13. Er mwyn bod yn gymwys i gael disgownt ar rent fel rhan o’r pecyn gwobrau, rhaid i’r prif enillydd a’r ddau sy’n dod yn ail fod wedi llofnodi cytundeb tenantiaeth mewn canolfan Technium. Mae Technium yn cadw’r hawl i orfodi terfyn amser ar yr elfen hon o’r pecyn gwobrau. Ar ben hynny, ni all gwerth y disgownt rhent fod yn fwy na 50% o’r cyfanswm costau rhent sy’n daladwy yn ystod eu tenantiaeth mewn canolfan Technium.

14. Mae Technium yn cadw’r hawl i newid y gwobrau a/neu’r gefnogaeth a roddir gan noddwyr fel rhan o Gystadleuaeth Technium ar unrhyw adeg.

15. Mae Technium yn cadw’r hawl i ddiarddel unrhyw ymgeisydd os oes ganddo sail resymol dros gredu fod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn.

16. Bydd ymgeiswyr yn gyfrifol am eu treuliau a’u costau eu hunain wrth baratoi a chwblhau’r Crynodebau Gweithredol a’r Cynlluniau Busnes ac am unrhyw gostau neu dreuliau eraill. Ni fydd gan Technium unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd yng nghyswllt unrhyw dreuliau o’r fath.

17. Drwy gyflwyno cais i Gystadleuaeth Technium mae ymgeiswyr yn gwarantu fod yr holl wybodaeth a gyflwynir ganddynt yn wir, yn gyfredol ac yn gyflawn.

18. Mae Technium yn cadw’r hawl i newid unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn neu i ganslo Cystadleuaeth Technium ar unrhyw adeg heb hysbysiad ymlaen llaw. Caiff unrhyw newidiadau eu cyhoeddi o fewn y telerau ac amodau hyn. Gellir hefyd gael copi o’r telerau ac amodau hyn drwy anfon amlen hunan-gyfeiriedig gyda stamp i’r cyfeiriad a nodir ym mharagraff 20 isod.

19. Ni ellir derbyn prawf o bostio fel prawf o dderbyn. Ni all Technium dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad, gwall, ymyriad, dilead, diffyg, oedi mewn gweithredu neu drosglwyddo, methiant llinell gyfathrebu, lladrad, dinistriad, newid neu fynediad heb awdurdod i geisiadau, neu geisiadau a gaiff eu colli neu eu hoedi p’un ai a yw hynny’n digwydd yn ystod gwaith gweithredu neu drosglwyddo o ganlyniad i swyddogaethau gweinyddwyr, firws, bygiau neu achosion eraill y tu allan i’w reolaeth.

20. Gellir cysylltu â Technium drwy ysgrifennu at Steve Davies, Technium Abertawe, SA1 Glannau Abertawe, Heol y Brenin, Abertawe, SA1 8PH, Cymru, Y Deyrnas Unedig neu drwy anfon e-bost at steve.davies@technium.uk.

21. Ni all Technium dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod, colled, niwed neu siom sy’n dod i ran unrhyw ymgeisydd sy’n cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Technium neu o ganlyniad i unrhyw ymgeisydd yn derbyn unrhyw wobr a roddir yn y Gystadleuaeth Technium. Nid yw Technium yn gyfrifol am unrhyw broblemau neu gamweithredu technegol mewn perthynas ag unrhyw rwydwaith neu linellau ffôn, systemau ar-lein cyfrifiadurol, gweinyddwyr neu ddarparwyr, offer cyfrifiadurol, methiant meddalwedd unrhyw neges e-bost neu gais oherwydd problemau technegol neu brysurdeb ar y Rhyngrwyd, llinellau ffôn neu ar unrhyw wefan, neu unrhyw gyfuniad o hynny, gan gynnwys unrhyw niwed neu ddifrod i gyfrifiadur neu ffôn symudol ymgeisydd Cystadleuaeth Technium neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r cais neu lawrlwytho unrhyw ddeunyddiau fel rhan o Gystadleuaeth Technium. Ni fydd dim yn y telerau ac amodau hyn yn eithrio atebolrwydd Technium am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i’w esgeulustod.

22. Caiff y telerau ac amodau hyn eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr a thrwy hynny mae Technium ac ymgeiswyr Cystadleuaeth Technium yn ymostwng i awdurdod unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.