Gwobr
Mae’r gwobrau ar gyfer cystadleuaeth 2008/09 yn cael eu trefnu ar hyn o bryd. Er mwyn rhoi syniad i chi o’r gwobrau sydd ar gael, gweler manylion pecyn gwobrau 2007/08 isod (noder bod cystadleuaeth 2007/08 bellach wedi cau):-
Gwobr Enillydd 2007/08
- Gwobr ariannol o £5,000 gan Ganolfan Arloesi Boots.
- £5,000 tuag at gostau rhentu swyddfa mewn canolfan Technium o ddewis y cwmni.
- Teledu Sony Bravia 32" (gan Ganolfan Technoleg SONY UK, Pencoed)
- Gwerth £1,000 o gymorth ymgynghorol gan Capital Law (cyfreithwyr masnachol)
- Un diwrnod o gymorth ymgynghori ar ddatblygu'r farchnad gan Brifysgol Cymru, Ysgol Fusnes Casnewydd
Ail Wobr 2007/08 (i 2 o’r cystadleuwyr)
- Aelodaeth Gyswllt Technium am ddim am flwyddyn
- Teledu Sony Bravia 32" (gan Ganolfan Technoleg SONY UK, Pencoed)
- Gwerth £1,000 o gymorth ymgynghori gan Capital Law (cyfreithwyr masnachol)
Cwmnïau’r Rownd Gynderfynol 2007/08
- Cyfle i roi cyflwyniad byr o'u syniadau o flaen panel ffug gyda GreyMatter UK cyn cyflwyno i'r panel beirniadu terfynol.
- Mynediad am ddim i weithdy Fit for Funding sy'n cael ei gynnal gan Cyllid Cymru a xénos y ddiweddarach yn y flwyddyn.
Holl ymgeiswyr 2007/08
Mae cymorth ar gael i bob ymgeisydd, ar gais, gan y cynghorwyr gwasanaethau proffesiynol canlynol (bydd lefel y cymorth yn amrywio o un cynghorydd i’r llall):-
Haseltine Lake - Twrneiod Patent a Nod Masnach Ewropeaidd.
GreyMatter UK - Strategaeth ac arloesedd gan gynnwys marchnata a gwerthu
Business in Focus - Gwasanaethau i gynorthwyo gyda dechrau a datblygu busnes a chynllunio ar gyfer ymadael, gan gynnwys cysylltiadau cyhoeddus a dod o hyd i grantiau.
Capital Law - cyngor cyfreithiol masnachol (yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd)
Eversheds - cyngor cyfreithiol masnachol (cynigir awr a hanner o gymorth am ddim i uchafswm o 20 o ymgeiswyr yn eu swyddfeydd yng Nghaerdydd)
Genesis Marketing - gwasanaeth ymgynghori ar farchnata
Prifysgol Cymru, Ysgol Fusnes Casnewydd - gwasanaeth ymgynghori ar gynllunio busnes a datblygu'r farchnad
Cyllid Cymru a xénos - mynediad i gyfleoedd ariannu masnachol