Cystadleuaeth Technium
Not found what you want?
Technium Challenge UK Flyer
Cystadleuaeth cynllunio busnes flynyddol yw Cystadleuaeth Technium. Ei nod yw annog cwmnïau uwch-dechnoleg a chwmnïau gwybodaeth i ennill eu plwyf ym marchnad y DU neu helpu busnesau cyfnod cynnar i dyfu.
Dim ond cwmnïau newydd ac ifanc yn y DU all gystadlu yng Nghystadleuaeth Technium y DU. Mae Cystadleuaeth Technium Rhyngwladol yn agored i gwmnïau sy’n ceisio ennill eu plwyf ym marchnad y DU.
Mae pob cwmni sy’n gymwys i gystadlu yn elwa ar gyngor a chymorth arbenigol. Bydd ein hymgynghorwyr yn helpu ymgeiswyr i ddatblygu cynllun busnes a chrynodeb gweithredol. Mae enillwyr hefyd yn derbyn pecyn gwobr deniadol.