Beth yw Technium

Technium: o syniadau mawr i fusnesau mawr

Sefydlwyd Technium yn 2001 fel amgylchedd lle mae busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg yn gallu ffynnu a gwireddu eu potensial i dyfu ar raddfa fawr.

Rydym yn helpu busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg newydd a chyfnod cynnar i oresgyn rhwystrau i lwyddiant ac yn darparu amgylchedd lle gallant ffynnu. Rydym hefyd yn ganolfan i gwmnïau rhyngwladol sy’n ceisio ennill eu plwyf ym marchnad y DU.

Mae’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn cwmpasu tri phrif faes:

Adeiladau
Rydym yn cynnig swyddfeydd modern a’r cyfleusterau diweddaraf mewn dewis o ddeg lleoliad ledled Cymru.

Cymorth busnes
Gall busnesau fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth arbenigol sy’n cynnwys popeth o gyllid a thechnoleg i adnoddau dynol ac ehangu busnes. Yn ogystal, gallwn roi cyngor i chi ar grantiau i’ch helpu i ddatblygu’ch gwaith ymchwil neu’ch cynnyrch.

Cyfleoedd i rwydweithio
Mae gennym gysylltiadau â’r prif gwmnïau ac academyddion cenedlaethol a rhyngwladol, sy’n golygu bod gennych ddigon o gyfleoedd i rwydweithio. Byddwn ni’n eich helpu i ddatblygu perthynas gref ag eraill sy’n fuddiol i’r ddwy ochr.

Gyda’n gilydd byddwn ni’n gwireddu’ch potensial i dyfu.