|
Prifysgol Cymru Abertawe Fel partner allweddol yn Technium, mae Prifysgol Cymru Abertawe wedi sefydlu a datblygu cyswllt cryf gyda Technium Abertawe. Dros y blynyddoedd, mae sawl adran academaidd hefyd wedi datblygu ac adeiladu partneriaethau, cydweithrediadau a phrosiectau ymchwil gyda chwmnïau Technium, gan gynnwys yr adrannau canlynol. Electroneg Pwer Gwyddorau CyfrifiadurPeirianneg (Aerofod, Proses Cemegol a Biolegol, Sifil, Trydanol ac Electronig, Gwybodaeth, Technoleg Gwybodaeth, Cyfathrebu a Chyfrifiant (TGCC), Deunyddiau a Pheirianneg Mecanyddol) Gwyddorau bywyd a’r ysgol glinigol Canolfan Datblygu Gwybodaeth (KEC) Mae Prifysgol Cymru Abertawe wedi sefydlu’r Ganolfan Datblygu Gwybodaeth i gydlynu a gwella gweithredu ‘Trydedd Genhadaeth’ y Brifysgol (gweithgareddau addysgu ac ymchwil di-graidd). Mae’r Ganolfan Datblygu Gwybodaeth yn gweithredu fel canolbwynt strategol datblygu economaidd yn y rhanbarth. Trwy ryngweithio gyda myrdd o bartneriaid, mae’r Ganolfan yn anelu at fod yn ganolbwynt rhanbarthol cydnabyddedig ar gyfer partneriaeth a datblygu ar y cyd ym meysydd: Entrepreneuriaeth (Ysgoloriaeth KEF)Cyn-Masnacheiddio Eiddo Deallusol Ymchwil a Datblygu Datblygu Sgiliau Trosglwyddo Technoleg ac Arloesedd(Cliciwch trwyddo ar gyfer y wybodaeth ganlynol)
Yn y Brifysgol, mae’r KEC yn cydlynu gweithgareddau’r: Ganolfan Datblygu GwybodaethCETIC - menter a ariennir ar y cyd gan Awdurdod Datblygu Cymru a KEF. Fe’i sefydlwyd i ddarparu’r adnoddau gwyddonol, technegol ac ymchwil gorau yn sefydliadau Addysg Uwch Cymru i gwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth Mae’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) a ariennir gan DTI yn allweddol yn ysgogwr allweddol cysylltiadau diwydiant-academia. UNILINKS - Cydweithrediad â’r gymuned fusnes leol i gyflawni a ffurfio partneriaethau cynaliadwy gyda sefydliadau sector preifat a chyhoeddus a chynorthwyo’r Brifysgol wrth rannu ei gwybodaeth ragorol gyda diwydiant. Athrofa Addysg Uwch Abertaw Mae’r Athrofa yn Goleg Cyswllt Prifysgol Cymru ac yn ganolfan gymeradwyedig ar gyfer rhaglenni CABT Cenedlaethol Uwch a CGC. Sefydlwyd cysylltiadau â: Modelu cyfrifiaduronCyfadran Dylunio a Pheirianneg Cymhwysol (Mae’r gyfadran yn cynnwys ysgolion Peirianneg Modurol, Technoleg Cyfrifiadur a Rhyngrwyd, Cyfrifiadureg, Cyfryngau Digidol, Dylunio Diwydiannol, Logisteg, Peirianneg Mecanyddol a Gweithgynhyrchu) Canolfan Cyfryngau DigidolCliciwch yma am wybodaeth bellach am arbenigedd academaidd
|