Cefnogaeth Busnes a Marchnata

Mae Technium Abertawe yn darparu tîm o gynghorwyr arbenigol sy’n canolbwyntio ar gefnogi twf a datblygiad busnesau sy’n seiliedig ar wybodaeth. Mae cynghorwyr busnes penodol wrth law i ddarparu perthnasoedd gwaith agos gyda chwmnïau Technium Abertawe ac i fod yn gyfrifol am sicrhau bod y ddarpariaeth cefnogaeth busnes yn bodloni disgwyliadau yn llawn.

“Cliciwch yma am wybodaeth bellach”        

Cefnogaeth Technoleg

Mae Technium Swansea yn darparu mynediad i dîm o gynghorwyr arbenigol sy’n cynorthwyo ei gwmnïau wrth nodi rhaglenni Technoleg ac Arloesedd addas a gynigir drwy’r Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r rhaglenni hyn yn ymroddedig i helpu busnesau yng Nghymru lwyddo trwy ddefnyddio, rheoli a datblygu syniadau arloesol a thechnolegau newydd. Er gall meini prawf cymhwyster amrywiol fod yn berthnasol i raglenni unigol, mae llawer am ddim neu’n darparu mynediad i arian. Gellir addasu pob un ohonynt i weddu i anghenion busnes penodol.                                    

“Cliciwch yma am wybodaeth bellach”     

Cymorth Ariannol
Mae sawl pecyn ariannol ar gael i gwmnïau Technium Abertawe ar gyfer datblygu cynnyrch a phrosesau newydd.              
“Cliciwch yma am wybodaeth am ffynonellau arian”         

“Mae Technium yn ein galluogi i gael amgyffrediad proffesiynol gan bobl sy’n ymwneud â ni. Rydym yn elwa’n fawr ar gymryd rhan mewn amgylchedd entrepreneuraidd gyda chwmnïau arloesol o amgylch.”