Technium, Heol y Brenin, SA1 Glannau Abertawe, Abertawe, SA1 8PH, Cymru, UK.  

Lleolir Technium Abertawe yn Ne Orllewin Cymru ar y datblygiad Glannau Abertawe SA1 newydd llai na 5 munud i ffwrdd o Ganol Dinas Abertawe. Mae De Orllewin Cymru mewn lleoliad delfrydol i wasanaethu holl brif farchnadoedd y DU. Mae cysylltiadau ffordd yn cynnwys traffordd yr M4 a system cefnffyrdd ddatblygiedig.

Gellir cyrraedd llwybrau ffordd, môr ac awyr i gyd yn gyflym, gan sicrhau cyfathrebu helaeth gyda marchnadoedd pwysig yn y DU ac Ewrop. Mae’r ardal hefyd yn elwa ar gefn gwlad heb ei ddifetha a golygfeydd hardd ac mae’n agos i Benrhyn Gwyr, sef Ardal gyntaf y DU o Harddwch Naturiol Eithriadol.