![]() |
|
|||
![]() |
||||
|
Technium Abertawe Mae canolfan flaenllaw Technium yn Ne Orllewin Cymru ar safle datblygu newydd Glan Môr Abertawe SA1, sy’n llai na 5 munud o ganol dinas Abertawe, a 10 munud o draffordd yr M4. Mae Technium 2 yn Ne Orllewin Cymru ar safle datblygu newydd Glan Môr Abertawe SA1, yn agos at ganolfan flaenllaw Technium, sy’n llai na 5 munud o ganol dinas Abertawe a 10 munud o draffordd yr M4. Technium Digidol Mae Technium Digidol yng nghanol y campws ym Mhrifysgol Cymru Abertawe yn Ne Orllewin Cymru. Mae hwn yn lleoliad ardderchog y gellir ei gyrraedd yn hawdd o ganol dinas Abertawe a thraffordd yr M4. Technium Digidol@Sony Mae Technium Digidol@Sony yng Nghanolfan Technoleg Sony, Pencoed, De Cymru. Mae’r safle hwn yn agos at draffordd yr M4 (Cyffordd 34) sy’n gyfleus ar gyfer Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Technium Peirianneg Perfformiad Bydd Technium Peirianneg Perfformiad ym Mhorth Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, De Orllewin Cymru. Gellir cyrraedd traffordd yr M4 yn rhwydd o’r safle, ac mae’n agos at Barc trawiadol Arfordirol y Mileniwm. Technium Sir Benfro Lleolir Technium Sir Benfro yn y Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Noc Penfro gerllaw Dyfrffyrdd Aberdaugleddau. Mae Technium Sir Benfro yn darparu cyfleusterau deori ymchwil a datblygu ar gyfer busnesau technolegol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ynni a sectorau cysylltiedig. Mae’n agos at fusnesau ynni sylweddol yn cynnwys purfeydd olew, cyfleusterau mewnforio LNG a gorsafoedd p?er arfaethedig. Postir gwybodaeth bellach yn fuan. Technium Technolegau Cynaliadwy Mae Technium Technolegau Cynaliadwy yn cael ei adeiladu ym Mharc Ynni Baglan yn Ne Orllewin Cymru, ac mae mewn lleoliad cyfleus gerllaw traffordd yr M4. Technium Aberystwyth Mae Technium Aberystwyth wedi’i leoli ar arfordir Gorllewin Cymru yn lleoliad gwych Marina Aberystwyth. Technium OpTIC Lleolir Technium OpTIC lle mae clwstwr o gwmnïau opto-electronig eisoes o amgylch Llanelwy yng Ngogledd Cymru. Gellir cyrraedd yr A55 yn rhwydd o’i safle ym Mharc Busnes urddasol Llanelwy, sy’n agos at Ogledd Orllewin a Chanolbarth Lloegr. Technium CAST Mae Technium CAST ym Mharc Menai ym Mangor, Gogledd Cymru, sy’n lleoliad cyfleus ar gyfer Canolbarth a Gogledd Orllewin Lloegr ar ffordd yr A55. Mae Bangor hefyd yn agos at Gaergybi lle mae llongau’n croesi’n rheolaidd i Weriniaeth Iwerddon.
|
|||
![]() |
||||